Numbers 33

Y daith o'r Aifft i Moab

1Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron. 2Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr Arglwydd wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw: 3Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd. 4Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr Arglwydd oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim.

5Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
6Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.
7Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.
8Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.
9Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.
10Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch.
33:10 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

11Gadael y Môr Coch a gwersylla yn Anialwch Sin.
12Yna gadael Anialwch Sin a gwersylla yn Doffca.
13Gadael Doffca a gwersylla yn Alwsh.
14Gadael Alwsh a gwersylla yn Reffidim, lle doedd dim dŵr i bobl ei yfed.
15Gadael Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai.
16Gadael anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaäfa.
17Yna gadael Cibroth-hattaäfa a gwersylla yn Chatseroth.
18Gadael Chatseroth a gwersylla yn Rithma.
19Yna gadael Rithma a gwersylla yn Rimmon-perets.
20Gadael Rimmon-perets a gwersylla yn Libna.
21Gadael Libna a gwersylla yn Rissa.
22Gadael Rissa a gwersylla yn Cehelatha.
23Gadael Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Sheffer.
24Gadael Mynydd Sheffer a gwersylla yn Charada.
25Gadael Charada a gwersylla yn Macelot.
26Gadael Macelot a gwersylla yn Tachath.
27Gadael Tachath a gwersylla yn Tera.
28Gadael Tera a gwersylla yn Mithca.
29Gadael Mithca a gwersylla yn Chashmona.
30Gadael Chashmona a gwersylla yn Moseroth.
31Gadael Moseroth a gwersylla yn Bene-iaacan.
32Gadael Bene-iaacan a gwersylla yn Chor-haggidgad.
33Gadael Chor-haggidgad a gwersylla yn Iotbatha.
34Gadael Iotbatha a gwersylla yn Afrona.
35Gadael Afrona a gwersylla yn Etsion-geber.
36Gadael Etsion-geber a gwersylla yn Cadesh yn anialwch Sin.
37Gadael Cadesh a gwersylla wrth Fynydd Hor sydd ar ffin gwlad Edom.

38Roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft. 39Roedd Aaron yn gant dau ddeg tri mlwydd oed pan fu farw.

40Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.

41Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.
42Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon.
43Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth.
44Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.
45Gadael Ïe-hafarîm
33:45 Hebraeg,  Ï'im, sy'n ffurf gryno o  Ïe-hafarîm
a gwersylla yn Dibon-gad.
46Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim.
47Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.
48Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. 49(Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)

Rhannu'r wlad

50Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 51“Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan 52dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd. 53Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.

54“‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan – pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid. 55Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi – fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr. 56A bydda i'n gwneud i chi beth roeddwn i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”

Copyright information for CYM